PAPUR TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I’R PWYLLGOR CYDRADDOLDEB A CHYFIAWNDER CYMDEITHASOL

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, 17 Mehefin 2023

 

Rwy’n croesawu’r cyfle i ddarparu gwybodaeth i gefnogi ymchwiliad y Pwyllgor i Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd.

 

Rwyf wedi mynd i’r afael â phob un o feysydd diddordeb y Pwyllgor isod ac edrychaf ymlaen at drafod ymhellach â’r Pwyllgor ddydd Llun 18 Medi.

 

Y Strategaeth Genedlaethol

Mae’n ofyniad statudol o dan a3(1) o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i Weinidogion Cymru, yn dilyn etholiad cyffredinol, baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol i atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr.

Y Strategaeth Genedlaethol yw’r cyfrwng ar gyfer cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i:

a)    gryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref

b)    ehangu ymgyrchoedd hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’ a ‘Paid Cadw’n Dawel’

c)    sicrhau mai Cymru yw lle’r mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw

Paratowyd y Strategaeth ddiwygiedig drwy ymgynghori’n helaeth â gweithgor o sefydliadau partner allweddol a goroeswyr, yn ogystal â’r Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Amcanion y Strategaeth Genedlaethol

Amcan 1
Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda’r nod o leihau’r achosion ohono.

Amcan 2
Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a’u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.

Amcan 3
Cynyddu’r ffocws ar ddwyn y rhai sy’n cam-drin i gyfrif a chefnogi’r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu’n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.

Amcan 4
Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.

Amcan 5
Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.

Amcan 6
Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a’r rheini’n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n cael eu harwain gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n ymatebol ledled Cymru.

Yn ganolog i’r Strategaeth mae dull iechyd y cyhoedd o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ymhlith yr egwyddorion y tu ôl i’n Strategaeth, mynegir yr ymrwymiad craidd canlynol;

“Mae egwyddorion iechyd y cyhoedd yn cynnig fframwaith defnyddiol ar gyfer deall ein dull a’r ‘theori newid’ y byddwn yn ei ddefnyddio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dull iechyd y cyhoedd yn deall achosion trais, cam-drin a rheolaeth, a’u heffeithiau. Mae’r dull yn seiliedig ar boblogaethau cyfan ac, fel y cyfryw, yn dibynnu ar ymdrech gydgysylltiedig sy’n cydnabod achosion problemau iechyd a chymdeithasol drwy ymatebion amlasiantaethol.

Mae dull iechyd y cyhoedd o atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gwella diogelwch pawb drwy fynd i’r afael â’r ffactorau risg sylfaenol sy’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn dod yn oroeswr neu’n mynd yn gyflawnwr. Mae pedwar cam i ddull iechyd y cyhoedd llwyddiannus sy’n hanfodol i’r Strategaeth hon:

Mae Cynghrair Atal Trais Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio ‘fframwaith ecolegol’ sy’n cynrychioli’r cydadwaith rhwng ffactorau’n ymwneud ag unigolyn, cydberthynas, cymuned a chymdeithas sy’n rhyngweithio i bennu’r risg o drais. Wrth gyflawni’r Strategaeth hon, rydym yn disgwyl i bob penderfyniad gael ei lywio gan ddealltwriaeth o’r model hwn ac ymdrechu i sicrhau bod ymyriadau unigol yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar y fframwaith.

Bydd atal yn rhan greiddiol o’r Strategaeth. Er bod cefnogaeth i oroeswyr a newid system er mwyn gwella canlyniadau i oroeswyr yn dal i fod yn arfau pwysig, rydym am symud y pwyslais oddi ar y symptomau a chanolbwyntio ar yr achos drwy ddull iechyd y cyhoedd. Nid yw hyn yn golygu y bydd goroeswyr yn cael, nac y dylent ddisgwyl cael llai o’r dull gweithredu hwn. Mae hyn yn ymwneud ag ehangu effaith yr hyn a wnawn er mwyn sicrhau y caiff goroeswyr eu cefnogi’n gyfannol fel unigolion, a bod effaith ehangach ar y gymdeithas sy’n lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y lle cyntaf. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘atal’ yn derm mantell sy’n golygu bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r niwed y mae’n ei achosi yn cael eu hatal dros y sbectrwm, gan gynnwys:

Bydd ein dulliau iechyd y cyhoedd yn codi ymwybyddiaeth rhan eang o’r boblogaeth o fesurau atal ac yn lleihau ac atal trais ar lefel y boblogaeth. Bydd hyn yn golygu y byddwn yn ceisio nodi unigolion a all ddod yn oroeswyr, neu fynd yn gyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynharach, ond byddwn hefyd yn defnyddio ymyriadau ar draws y boblogaeth gyfan i ‘ddadnormaleiddio’ trais, rheolaeth drwy orfodaeth ac aflonyddu. Mae’r Strategaeth hon yn mabwysiadu dull cwrs bywyd at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy’n cynnwys plant ac oedolion o bob oed, gan gynnwys pobl hŷn, gan adnabod arwyddion cam-drin drwy gydol camau bywyd unigolyn.”

Mae’r Strategaeth yn cael ei chyflawni drwy ddull Glasbrint sy’n dwyn ynghyd sefydliadau sydd wedi’u datganoli ac eraill nad ydynt wedi’u datganoli. Mae’r tîm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arwain y gwaith o gyflawni ar gyfer Llywodraeth Cymru ond, er mwyn llwyddo, mae’r Strategaeth yn gofyn am gydweithio ag adrannau eraill gan gynnwys addysg, iechyd, tai a throseddu. Mae mabwysiadu’r dull Glasbrint hwn wedi’i gwneud yn bosibl sefydlu strwythur llywodraethu newydd a rennir sy’n adlewyrchu’r gydberchnogaeth ar y flaenoriaeth gyffredin hon, sef mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd ar gyfer ein gwaith yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Yr egwyddorion sylfaenol sy’n llywio ein hymdrechion ar y cyd yw:

Mae’r gwaith yn cyfrannu at gyflawni bob un o’r nodau llesiant. Mae hefyd yn cyfrannu at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru, yn enwedig: hyrwyddo iechyd a llesiant da i bawb; creu cymunedau mwy iach ac amgylcheddau gwell; helpu pobl i wneud y mwyaf o’u potensial; datblygu uchelgais ac annog dysgu am oes; creu cymunedau, diwylliant ac iaith sy’n gydnerth; hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd.

Bydd ffrydiau gwaith y Glasbrint yn bwrw ymlaen â gwaith ar gamau allweddol a amlinellir yn Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-2026, ac yn ei oruchwylio, yn ogystal â nodi blaenoriaethau eraill wrth dynnu ar dystiolaeth/gwersi ehangach a ddysgwyd sy’n berthnasol i’r agenda trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rhaid i hyn ddigwydd â chytundeb y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol. Gall y ffrydiau gwaith hyn newid dros amser wrth i gynnydd gael ei wneud ac wrth i flaenoriaethau ddatblygu. Fodd bynnag, yn y lle cyntaf, bydd y rhain yn ymdrin â’r canlynol:

Cynnydd a wnaed i weithredu Rhaglen y Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol hyd at 31 Mawrth 2023

Y camau allweddol sy’n sail i’r rhaglen waith

Amcan ymyrryd yn gynnar ac atal y Strategaeth

Mae’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn ymrwymo i sicrhau bod ymyrryd yn gynnar ac atal yn flaenoriaeth. Er bod cefnogaeth i oroeswyr yn dal i fod yn rhan bwysig o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, rydym am symud y pwyslais oddi ar y symptomau a chanolbwyntio ar yr achos drwy ddull iechyd y cyhoedd. Bydd y dull gweithredu hwn yn cael effaith gymdeithasol ehangach sy’n ei gwneud yn llai tebygol y bydd pobl yn profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys:

 

·         atal cychwynnol: atal trais cyn iddo ddigwydd

·         atal eilaidd: ymateb i drais i leihau niwed cymaint â phosibl, gwella gwasanaethau ac atal trais pellach

·         atal trydyddol: atal atgwympo a chylchoedd trais sy’n pontio cenedlaethau

 

Byddwn yn torri’r cylch ac yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy fynd i’r afael â thrais gan ddynion, a’r casineb at fenywod a’r anghydraddoldeb rhywiol sy’n sail iddo. Rhaid inni herio agweddau a newid ymddygiadau’r rhai sy’n ymddwyn yn gamdriniol. Ni ddylai fod angen i fenywod newid eu hymddygiad. Camdrinwyr ddylai fod yn newid eu hymddygiad nhw.

 

 

Dulliau iechyd y cyhoedd o atal trais ar sail rhywedd ac anghenion gwahanol grwpiau o fenywod, gan gynnwys pobl LHDTC+, pobl ethnig leiafrifol, a phobl ifanc a hŷn sydd mewn perygl o drais yn y cartref ac mewn mannau cyhoeddus

 

Fel y nodir uchod, mae strwythur y Glasbrint wedi’i gynllunio i gefnogi dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â’r materion hyn drwy ddull cydweithredol sy’n cynnwys cyrff statudol sydd wedi’u datganoli a chyrff statudol sydd heb eu datganoli, partneriaid trydydd sector a goroeswyr. Mae’r ffrydiau gwaith sy’n ymwneud ag aflonyddu mewn mannau cyhoeddus ac yn y gweithle yn ehangu ein ffocws y tu hwnt i’r lleoliad domestig a oedd yn sail i’n dull gweithredu cyn yr ail fersiwn hon o’r Strategaeth. Mae’r ffrwd waith sy’n ymwneud â chyflawni trais yn darparu’r asgwrn cefn ar gyfer ein ffocws ar atal ac mae’r ffrydiau gwaith ar blant a phobl ifanc a phobl hŷn yn darparu ffocws ar gyfer datblygu polisi cydweithredol rhwng rhanddeiliaid gan ein galluogi i fynd i’r afael â’r materion hyn yn uniongyrchol.

 

Yn naturiol, mae pob rhan o’r Glasbrint yn gweithio i gyflawni’r Strategaeth sy’n nodi edau aur dull iechyd y cyhoedd, gwaith ataliol a chydnabyddiaeth o effeithiau croestoriadol ar y tebygolrwydd o brofi trais ar sail rhywedd yn ogystal â’r anghenion cymorth unigryw sy’n adlewyrchu’r nodweddion hyn.

 

Mae llawer nad ydym yn ei wybod o hyd am effeithiolrwydd dulliau iechyd y cyhoedd o fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd. Er hynny, mae ein dull strategol wedi’i adeiladu ar y dystiolaeth o effeithiolrwydd sydd ar gael ac mewn partneriaeth â chyrff fel Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi dod ag arbenigedd a dealltwriaeth academaidd i’r gwaith o ddatblygu’r Strategaeth. Mae partneriaeth y Glasbrint yn ein galluogi i ddysgu gyda’n gilydd wrth inni ddatblygu ein dull iechyd y cyhoedd a bydd creu’r storfa wybodaeth ganolog yn rhoi ffocws ar gyfer datblygu tystiolaeth a gwerthuso.

 

Fel y nodwyd uchod, mae’r Glasbrint wedi datblygu a chyhoeddi Cynllun Lefel Uchelsy’n nodi’r camau y bydd grwpiau yn mynd ar eu trywydd. Dywed y Cynllun;

“Bydd mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd ar gyfer ein gwaith yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Yr egwyddorion sylfaenol sy’n llywio ein hymdrechion ar y cyd yw:

1.    Herio agweddau’r cyhoedd

2.    Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith plant

  1. Mwy o atebolrwydd gan y rhai sy’n cyflawni trais a cham-drin
  2. Blaenoriaethu a chanolbwyntio ar atal
  3. Gweithlu hyderus a gwybodus
  4. Darparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch sy’n ystyriol o drawma ac yn cael eu harwain gan anghenion.”

 

Rôl y sector cyhoeddus a gwasanaethau arbenigol

 

Mae’r Glasbrint wedi dod â’r ystod lawn o wasanaethau sector cyhoeddus ac arbenigol ynghyd i gyflawni ein Strategaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn cael ei gydgadeirio gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys. Mae aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr yr Heddlu yn ogystal ag aelodau o asiantaethau arbenigol fel New Pathways, Cymorth i Ferched Cymru a Chymru Ddiogelach; Cyrff statudol fel Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF; Partïon eraill sydd â diddordeb fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru, y Gyngres Undebau Llafur ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ogystal â’r Comisiynwyr Plant, Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig.

 

Yn amlwg, mae gwaith y Glasbrint yn adeiladu ar ystod o fesurau sydd eisoes ar y gweill i gefnogi goroeswyr a mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd.

 

Byddwn yn cyflawni hyn drwy gyllid, codi ymwybyddiaeth ac addysg.

 

Fel y nodwyd uchod, mae Llywodraeth Cymru yn cyllido sefydliadau arbenigol yn y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn eu plith mae BAWSO, sefydliad blaenllaw yng Nghymru sy’n cefnogi goroeswyr anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a cham-drin ar sail anrhydedd. Mae BAWSO, sy’n gweithio gyda chymunedau, yn defnyddio ymyriadau penodol ac yn darparu gwasanaethau allgymorth a gwasanaethau cymunedol i godi ymwybyddiaeth o effaith cam-drin a thrais gyda’r nod o’u hatal cyn iddynt ddigwydd.

 

Mae codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o gydraddoldeb, parch a chydsyniad yn hanfodol os ydym am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym am sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at ddysgu o ansawdd uchel sy’n briodol i’w datblygiad ac sy’n ymateb i’w hanghenion a’u profiadau.

 

Mae’n orfodol i bob dysgwr gael gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy’n un o ofynion statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i’w chwarae wrth greu amgylcheddau diogel a grymusol sy’n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau cadarnhaol, iach a diogel drwy gydol eu bywydau.

 

Cafodd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ei chyflwyno mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022 ymlaen.

 

Ym mis Medi 2020, cafodd adnoddau ar gyfer athrawon eu datblygu a’u dosbarthu drwy rwydwaith Hwb i godi ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod a’r arwyddion y gallai merch ifanc fod yn wynebu risg o’r fath.

 

Ym mis Hydref 2020, dyfarnwyd contract hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i Karma Nirvana, gwasanaeth arbenigol sy’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin ar sail anrhydedd, i ddarparu 20 o ‘sioeau teithiol’ rhithwir am ddim i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru i feithrin eu hyder wrth herio achosion o gam-drin ar sail anrhydedd a phriodasau dan orfod. 

 

Rydym yn parhau i gyllido prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy’n hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach ac yn codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion ar ddeall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o fynd i’r afael â cham-drin domestig.

 

Mae ‘Rhaglen Lywodraethu 2021-2026’ Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ehangu ymgyrch hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Paid Cadw’n Dawel’. Mae swyddogion wrthi’n cwmpasu ac yn datblygu menter hyfforddiant ymyriadau Cymru gyfan ar gyfer y rhai sy’n dyst i drais a cham-drin a gaiff ei chyflwyno i ddinasyddion Cymru. Bydd y fenter hon yn cynnig hyfforddiant i’r cyhoedd sy’n hyrwyddo rhaglen ymyriadau rhag-gymdeithasol ar sail gwybodaeth i’r rhai sy’n dyst i drais a cham-drin a gaiff ei ddarparu ochr yn ochr â’n hymgyrchoedd cyfathrebu sefydledig presennol yn y maes hwn. Nod hyn yw creu newidiadau gwirioneddol a pharhaol i agweddau cymdeithasol tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Bydd y fenter hyfforddi hon yn adnodd allweddol o ran ein hymrwymiad i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac ymyrryd yn gynnar. Bydd yn mynd ati i ddatblygu sgiliau unigolion er mwyn galluogi’r rhai sy’n dyst i’r math hwn o drais a cham-drin i ymgysylltu’n ddiogel er mwyn ei atal neu ymateb iddo a bydd yn cefnogi ein nod o newid agweddau. Bydd hyn yn creu diwylliant newydd ac yn hyrwyddo annerbynioldeb pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ymhellach.

 

Mae lleisiau goroeswyr yn hanfodol i’n gwaith a rhaid iddynt gael eu clywed ar y lefel uchaf er mwyn inni fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithiol. Dyma pam rydym yn cynnig y bydd Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr a llif gwaith dynodedig yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth ar ei newydd wedd.

 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymchwilio i’r ffyrdd mwyaf effeithiol a diogel o ymgysylltu â goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn fwyaf diweddar, cynhaliwyd prosiect ymchwil dynodedig ar y rhwystrau sy’n atal pobl o gymunedau amrywiol rhag ymgysylltu â’r Llywodraeth. Caiff canfyddiadau ynglŷn â phob agwedd ar yr ymchwil eu hystyried mewn unrhyw waith a wneir gyda dioddefwyr a goroeswyr yn y dyfodol.

 

Cyllid trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido rhanbarthau a gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ddarparu cymorth amhrisiadwy sy’n achub bywydau i holl ddioddefwyr y math hwn o drais a cham-drin. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys ymyriadau, cymorth ataliol ac addysgol, rhaglenni ymyriadau i gyflawnwyr, Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol ar gyfer dioddefwyr sy’n wynebu risg uchel yn ogystal ag ymyriadau adfer therapiwtig i roi cymorth parhaus i’r rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt.

 

 

Addysg a’r Cwricwlwm

 

Mae canllawiau helaeth ar gael er mwyn helpu lleoliadau addysg i atal aflonyddu’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol, ac ymateb i hynny, gan gynnwys ein canllawiau statudol, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Yn ogystal, mae gennym sawl llinell gymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’u sefydlu yng Nghymru, yn benodol Childline Cymru, Byw Heb Ofn a’r gwasanaeth MEIC.

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn un o ofynion statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ac mae’n chwarae rôl gadarnhaol a gwarchodol yn addysg dysgwyr.

 

Bwriad Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw helpu plant i ddatblygu perthnasoedd ac ymddygiadau iach gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd, yn seiliedig ar garedigrwydd, empathi a pharch. Mae hyn yn bwysig iddyn nhw ddatblygu fel ‘unigolion iach, hyderus’ gyda llesiant cymdeithasol, emosiynol a meddyliol cadarnhaol.

 

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd wedi’i bwriadu i gadw plant yn ddiogel ac i ddiogelu eu llesiant. Mae hyn yn hanfodol wrth i dechnoleg a chymdeithas barhau i newid yn gyflym. Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn helpu plant i adnabod perthnasoedd a sefyllfaoedd a allai eu rhoi mewn perygl o niwed. Gall gefnogi pob plentyn gyda’r hyn y mae angen iddynt ei wybod a beth i’w wneud i gadw’n ddiogel a sut i ofyn am help.

 

Yn ogystal â gofynion y Cwricwlwm, rydym hefyd yn datblygu canllawiau ar gyfer lleoliadau addysg ynghylch sut i sicrhau bod eu hamgylchedd a’u diwylliant yn rhydd rhag syniadau niweidiol a chul ynghylch rolau rhywedd. Bydd y canllawiau hyn yn nodi dull lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a’u grymuso i herio ymddygiadau annerbyniol. Bydd yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn na pherson ifanc yn wynebu gwahaniaethu ar sail rhywedd neu rywioldeb. Bydd y dull lleoliad cyfan hwn yn cwmpasu ystod eang o leoliadau, gan gynnwys lleoliadau cynradd ac uwchradd, lleoliadau Anghenion Addysgol Arbennig a lleoliadau Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Gwyddom nad yw aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion wedi’i gyfyngu i ysgolion uwchradd ac mae deall sut y caiff hyn ei brofi ar wahanol oedrannau yn bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb gydag ymyriadau priodol ac wedi’u teilwra.

 

Canfu adolygiad gan Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion uwchradd bod y math hwn o aflonyddu rhywiol yn fwy cyffredin ar-lein a thu allan i’r ysgol nag yn yr ysgol. Drwy adran Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb, rydym wedi datblygu adnoddau i arfogi ymarferwyr i addysgu dysgwyr am y mater hwn a’u cefnogi gydag ef. Yn dilyn cyhoeddi canllawiau ar gyfer lleoliadau addysg i’w helpu i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth, cyhoeddwyd modiwl hyfforddiantbyr i gefnogi ysgolion i ymgorffori’r canllawiau hyn. Rydym yn annog uwch-arweinwyr ym mhob ysgol i ymgymryd â’r hyfforddiant hwn.

 

Rydym hefyd yn sefydlu panel cynghori plant a phobl ifanc ar gyfer cadernid digidol. Gwahoddir aelodau panel i rannu eu profiadau ar-lein a rhoi eu barn a’u syniadau a fydd yn llywio cyfeiriad ein gwaith a bydd yr holl negeseuon/cynnwys gweledol yn cael eu profi gyda phlant a phobl ifanc. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys yr Heddlu i ddatblygu cynllun gweithredu amlasiantaethol er mwyn mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Bydd y cynllun gweithredu yn amlinellu’r camau y bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn eu cymryd i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r cynllun gweithredu yn ystod tymor yr hydref.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i rymuso plant a phobl ifanc i lywio ein gwaith, a rhaid i’w lleisiau a’u profiadau byw fod yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Bydd hyn wrth wraidd ein holl waith yn y maes hwn.

 

 

Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn nodi 33 o gamau gweithredu i Lywodraeth Cymru a phartneriaid y Byrddau Diogelu yn erbyn deg amcan allweddol. Nod yr amcanion hyn yw atal cam-drin plant yn rhywiol, diogelu plant sy’n wynebu’r risg o gael eu camfanteisio arnynt yn rhywiol a chefnogi adferiad plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu ar gam-drin plant yn rhywiol, camfanteisio ar blant yn rhywiol ac ymddygiad rhywiol niweidiol.

 

Mae gan y Byrddau Diogelu gyfrifoldebau statudol i hyrwyddo adnoddau a hyfforddiant i ymarferwyr ar adnabod achosion o gamfanteisio ar blant yn rhywiol, ac ymateb iddynt.

 

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn newid y sector gwasanaethau cymdeithasol ac yn cynnwys newidiadau fel a ganlyn sy’n sicrhau bod:

·         Gan bobl reolaeth ar y math o gymorth y mae’i angen arnynt

·         Asesiad cymesur newydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn

·         Mynediad rhwydd at wybodaeth a chyngor ar gael i bawb

·         Pwerau i ddiogelu pobl yn gryfach

·         Dull ataliol o ddiwallu anghenion gofal a chymorth yn cael ei ddefnyddio

·         Awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dod ynghyd mewn partneriaethau statudol newydd i sbarduno camau i integreiddio, arloesi a newid gwasanaethau

Yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mae llesiant yn golygu bod person yn hapus, yn iach ac yn gyfforddus â’i fywyd a’r hyn mae’n ei wneud. Mae hyn yn golygu cael eich diogelu rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod. Mae’r Ddeddf hefyd wedi rhoi mwy o bwerau i sicrhau bod oedolion a phlant yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth neu esgeulustod yn gryfach a bydd bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol. Os oes achos i amau bod oedolyn neu blentyn mewn perygl, RHAID adrodd hyn i’r awdurdod lleol.

Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi’u sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i:

Rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: